SL(6)359 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 ("y prif Reoliadau"), sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i bersonau penodol nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

Mae rheoliad 2(a) yn ychwanegu Bermuda, Ynysoedd Cayman ac Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno at y rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol â hwy yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau. Mae rheoliad 2(b) yn diwygio St Helena i gynnwys Ascension a Tristan da Cunha.

Mae adran 4 o'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau yn egluro bod y cytundebau yn nodi y bydd pob Tiriogaeth Dramor yn cael cwota cyfyngedig o leoedd ar gyfer atgyfeiriadau cleifion ar gyfer triniaeth yn y DU, ac y bydd nifer yr atgyfeiriadau i’w hysbysu gan y DU o bryd i'w gilydd. Y ffgur y mae'r DU wedi cytuno arno â'r Tiriogaethau Tramor ar hyn o bryd yw pum claf fesul Tiriogaeth Dramor y flwyddyn. Os bydd unrhyw un o'r Tiriogaethau Tramor hyn yn cael Cymorth Datblygu Swyddogol, bydd y cwota hwn yn cynyddu i 10 claf ar gyfer y Diriogaeth Dramor dan sylw. Mae'r cwota wedi'i ledaenu dros gyfnod o dair blynedd gyda dyraniad treigl tair blynedd o leoedd cwota. O ran unrhyw gleifion sy'n cael eu hanfon i'r DU am driniaeth yn ychwanegol at y cwota perthnasol, codir tâl arnynt ar 100% o dariff y GIG.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Nid oes dyletswydd statudol i ymgynghori cyn gwneud y Rheoliadau. Bernir nad yw'r diwygiadau arfaethedig yn gofyn am ymgynghoriad gan eu bod yn rhoi ar waith cytundebau rhyngwladol y DU sy'n gymwys i'r DU gyfan ac felly mae'n ofynnol i Gymru eu rhoi ar waith a'u parchu.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

19 Mai 2023